Mae Cilybebyll yn gymuned lled wledig sydd wedi’i lleoli yng Nghwm Tawe yn ne Cymru, tua 10 milltir i’r gogledd o Ganol Dinas Abertawe a 4 milltir o Gyffordd 45 Traffordd yr M4. Mae mewn lleoliad da ar gyfer pobl sy’n dymuno manteisio ar y cyfleusterau sydd ar gael yn Abertawe, ac ystod o atyniadau yn yr ardal ehangach, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol y Gŵyr.

Gellir dod iddo o draffordd yr M4 ar hyd yr A4067, Ffordd Osgoi Cwm Tawe, neu ar hyd yr A474 o Rydaman yn y gorllewin, ac o Gastell-nedd, lle mae’r prif orsaf drenau agosaf, sydd â chysylltiad uniongyrchol â Chaerdydd a gorsaf Paddington, Llundain.

Mae Pontardawe – tref wledig fach sy’n darparu llawer o gyfleusterau lleol – wedi’i lleoli lai na milltir i ffwrdd ar ochr orllewinol Cwm Tawe, gyda Chilybebyll yr ochr arall i’r cwm ar draws Afon Tawe.  Prif bentrefi plwyf Cilybebyll yw Yr Alltwen, Fforestgoch, Gellinudd a Rhos, ynghyd â phentrefan Cilybebyll ei hun, sydd wedi rhoi ei enw i’r gymuned.

Gyda phoblogaeth o bron i 5,000 (Cyfrifiad 2011), mae gan Gilybebyll ddwy ysgol gynradd yn yr Alltwen a Rhos, ac mae hefyd yn cael ei gwasanaethu gan Ysgol Gyfun Cwmtawe ym Mhontardawe. Darperir addysg cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe ac yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.

Yn ogystal â bod yn ardal wledig ddeniadol gyda sawl llwybr troed cyhoeddus, mae gan Cilybebyll orffennol cyfoethog, a gwelir hyd heddiw dystiolaeth o’i hanes diwydiannol, crefyddol, cymdeithasol a phatrymau gwladychiad. Ceir digonedd o gyfleoedd i fwynhau’r hanes hwn a chyfle i weld golygfeydd godidog wrth gerdded o amgylch yr ardal.

Mae’r Cyngor Cymuned wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd y gymuned hon ers dros canrif, ac yn y cofnodion hanesyddol, sydd wedi eu diogelu gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe, ceir ffynhonnell ddefnyddiol ar gyfer astudio’r gorffennol. Mae’r wefan hon yn cynnig ffynhonnell newydd o wybodaeth ar gyfer y presennol ac adnodd gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.